English

Dysgu Anffurfiol a Dysgu Nad yw’n Ffurfiol


Mae’r system i achredu dysgu anffurfiol a dysgu nad yw’n ffurfiol – hynny yw, sgiliau a ddatblygwyd y tu allan i’r system addysg ffurfiol – neu i unigolion nad oes ganddynt dystysgrifau ffurfiol, yn y Deyrnas Unedig yn cael ei galw yn Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol neu Achredu Profiad a Dysgu Blaenorol.

Beth gall wneud i gyflogwyr, tiwtoriaid derbyn coleg a chynghorwyr gyrfaoedd

Drwy brofiad ymarferol, mae eisoes gan eich cyflogai/dysgwr/cleient arfaethedig y wybodaeth, y sgil neu’r cymhwysedd a gâi ei addysgu drwy gymhwyster penodol. Ond nid oes gan yr unigolyn unrhyw dystysgrif.

Neu, yn achos ffoaduriaid er enghraifft, efallai eu bod wedi ennill cymhwyster ond nid oes modd iddynt ei gyflwyno.

Yn hytrach na bod yr unigolyn yn ymgofrestru ar gwrs ffurfiol i ennill cymhwyster swyddogol, efallai y gallech ddefnyddio mathau eraill o dystiolaeth i asesu a chydnabod cymhwysedd yn erbyn cyfres benodol o safonau neu ganlyniadau dysgu.

I weld enghraifft o sut mae Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol yn gweithio, gweler gwefan Fframwaith Cymwysterau a Chredyd yr Alban

I gael cymorth â Chydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol, cysylltwch â'ch coleg neu ddarprwr hyfforddiant lleol.

Offer eraill a allai fod o ddiddordeb ichi:

Mae’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd yn eich helpu i ddeall lefelau cymwysterau tramor.

Mae Europass yn bortffolio o ddogfennau sy’n disgrifio gwybodaeth a sgiliau unigolyn mewn modd sy’n ddealladwy ledled Ewrop.

Mae’r Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd yn rhestru’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gael swyddi penodol yn Ewrop.

Mae’r System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn helpu i roi hyder y gellir ymddiried mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn Ewrop.

Fframwaith yw’r System Trosglwyddo Credyd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol sy’n cefnogi a chydnabod elfennau o ddysgu sy’n digwydd yn ystod ymweliadau astudio a lleoliadau gwaith dramor.

Dysgu-anffuriol PDF