English

Europass


Portffolio o ddogfennau yw Europass sy’n esbonio gwybodaeth a sgiliau unigolyn mewn ffordd sy’n ddealladwy ledled Ewrop.

Beth gall wneud i ddysgwyr, gweithwyr a cheiswyr gwaith

Bydd dogfen Europass yn eich helpu os ydych yn dymuno newid swydd yn y Deyrnas Unedig neu dramor neu os ydych yn dymuno astudio mewn gwlad wahanol.
Mae’n eich helpu i gyfathrebu eich sgiliau a’ch cymwysterau yn effeithiol.

Mae dwy ddogfen y gallwch eu cwblhau:

  • Mae CV Europass yn adnabyddus ledled Ewrop. Mae’n eich helpu i gyflwyno eich sgiliau a’ch cymwysterau yn effeithiol a chlir. Mae modd ei gwblhau ar-lein gan ddefnyddio templed parod. Enghreifftiau a chyfarwyddiadau .
  • Mae Pasbort Iaith Europass yn hunanasesiad o’ch sgiliau a’ch cymwysterau iaith. Mae modd ei ddefnyddio ar-lein gan ddefnyddio templed. Templed ar-lein a chyfarwyddiadau.

Gallwch gadw eich holl ddogfennau, tystysgrifau a CV gyda’i gilydd ar-lein gan ddefnyddio’r Pasbort Sgiliau Ewropeaidd gan gynnig tystiolaeth bellach o’ch sgiliau, cymwysterau a phrofiad.

Beth gall wneud i diwtoriaid coleg y mae eu myfyrwyr yn mynd ar ymweliad astudio dramor, a beth gall wneud i gyflogwyr y mae eu cyflogwyr yn mynd ar gwrs hyfforddiant dramor

Gall dogfen Europass Mobility gael ei ddefnyddio i gofnodi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau y mae eich dysgwyr/cyflogeion yn eu dysgu yn ystod ymweliad astudio, cyfnod o hyfforddiant neu leoliad gwaith yn Ewrop. Mae’n rhoi i’r dysgwr neu’r cyflogai dystiolaeth ysgrifenedig o’r hyn maent wedi cyflawni dramor.

Caiff dogfen Europass Mobility ei chreu, ei chwblhau a’u dilysu gan y sefydliad sy’n anfon, y sefydliad sy’n derbyn, a chan y dysgwr neu’r cyflogai. Mae modd i ddysgwyr neu gyflogeion ei defnyddio yn adysgrif ochr yn ochr a Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Chytundeb Dysgu ECVET. Symudedd Europass.

Beth gall wneud i gyflogwr sydd wedi derbyn CV gyda chymwysterau Ewropeaidd gan ymgeisydd swydd

Ask the job applicant for a Europass Certificate Supplement – which can be obtained from the exam body that awarded the candidate’s certificate. The Certificate Supplement describes the knowledge and skills acquired by holders of vocational education and training certificates.

Gofynnwch i’r ymgeisydd swydd am Atodiad Tystysgrif Europass – sydd ar gael gan y corff arholi a ddyfarnodd dystysgrif yr ymgeisydd. Mae’r Atodiad Tystysgrif yn disgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau sydd gan ddeiliaid tystysgrif addysg a hyfforddiant galwedigaethol.

Os oes gan yr ymgeisydd gymhwyster o brifysgol Ewropeaidd, gofynnwch iddi/iddo am Atodiad Diploma Europass – sydd ar gael gan y brifysgol. Mae’r Atodiad Diploma yn disgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau sydd gan ddeiliaid graddau addysg uwch.

Mae’r Atodiad yn cyfieithu teitl cymwysterau Ewropeaidd, yn ogystal â’r sgiliau a’r cymwyseddau, i Saesneg clir ac mae hefyd yn rhestru’r amrywiaeth o alwedigaethau sydd ar gael i ddeiliaid y cymhwyster.

Noder: nid yw pob corff arholi / prifysgol yn rhoi Atodiadau Tystysgrif/Diploma Europass. Os felly, bydd angen ichi ddefnyddio’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd, sy’n dangos lefelau cymwysterau Ewropeaidd.

Beth gall wneud i gynghorwyr gyrfaoedd

Gall Pasbort Sgiliau Europass helpu cleient i weithio neu astudio dramor. Gweler yr adran uchod dan y pennawd: "Beth gall wneud i ddysgwyr, gweithwyr a cheiswyr gwaith"

I ddysgu mwy am Europass, cysylltwch â’ch Canolfa Europass Genedlaethol, sef UK NARIC yn y Deyrnas Unedi

Offer eraill a allai fod o ddiddordeb ichi:

Mae’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd yn eich helpu i ddeall lefelau cymwysterau tramor.

Mae’r Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd yn rhestru’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gael swyddi penodol yn Ewrop.

Mae’r system i achredu dysgu anffurfiol a dysgu nad yw’n ffurfiol – hynny yw, sgiliau a ddysgwyd y tu allan i’r system addysg ffurfiol, neu i unigolion nad oes ganddynt dystysgrifau ffurfiol, yn y Deyrnas Unedig y cael ei galw’n Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol.

Mae’r System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn helpu i roi hyder y gellir ymddiried mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn Ewrop.

Fframwaith yw’r System Trosglwyddo Credyd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol sy’n cefnogi a chydnabod elfennau o ddysgu sy’n digwydd yn ystod ymweliadau astudio a lleoliadau gwaith dramor.

Europass PDF