English

Croeso!

Bwriad y wefan hon yw helpu cynghorwyr gyrfaoedd, recriwtwyr, staff prifysgolion a cholegau, dysgwyr a gweithwyr i ddeall sut y caiff sgiliau a chymwysterau eu cydnabod ledled Ewrop.

Efallai’ch bod yn cynghori, yn recriwtio neu’n cyflogi dysgwyr a gweithwyr o Ewrop, neu’n ystyried astudio neu weithio dramor.

Gall y porthol hwn i fyd Ewropeaidd sgiliau a chymwysterau eich helpu i ddeall sut i:

  • ganfod pa mor anodd yw'r cymwysterau a ddefnyddir mewn gwahanol wledydd a’u cymharu â rhai’ch gwlad eich hunan
  • bod yn ffyddiog ynghylch sicrwydd ansawdd yr hyfforddiant a gewch chi neu'ch dysgwyr/gweithwyr dramor
  • dangos gwerth yr hyn rydych chi (neu'ch dysgwyr/gweithwyr) yn ei ddysgu yn ystod lleoliad dramor
  • disgrifio’ch cymwysterau a’ch profiadau mewn ffordd sy’n ddealladwy ledled Ewrop.

Mae pob tudalen yn cynnwys dolenni i gronfeydd data a fframweithiau’r gydweithfa Ewropeaidd..

Pwy ydym ni

Mae gan bob gwlad nifer o Bwyntiau Cyswllt Cenedlaethol sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud rhwydwaith o arbenigwyr Ewropeaidd ar sgiliau a chymwysterau.

Cedwir y wefan hon ar y cyd gan Bwyntiau Cyswllt Cenedlaethol yr Alban (SCQF Partnership), Cymru (ColegauCymru) a Gogledd Iwerddon (CCEA Regulation) gyda ColegauCymru'n gwneud y gwaith cydlynu.

Mae ein manylion ar y dudalen Cysylltu.