English

System Trosglwyddo Credyd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol


Diben craidd y System Trosglwyddo Credyd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (ECVET) yn y Deyrnas Unedig yw rhoi cydnabyddiaeth i gyflawniadau dysgwyr mewn cyfnodau o astudio a/neu hyfforddi dramor. Nod ECVET yw defnyddio iaith a strwythur cyffredin i hybu ymddiriedaeth ymysg darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol a sefydliadau cymwys ledled Ewrop. Y nod yw annog mwy o ddysgwyr a staff i ymgymryd â chyfnodau o hyfforddiant neu astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall.

Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant a chwaraeon ac mae’n cynnig cyfleoedd astudio a hyfforddiant cyffrous i ddysgwyr a staff ledled Ewrop. Mae Erasmus+ yn cefnogi’r defnydd o ECVET i gydnabod cyflawniadau’r rhai sy’n cymryd rhan ym mhrosiectau Erasmus+.

Mae tîm o arbenigwyr ECVET yn gweithio yn y Deyrnas Unedig a ledled yr UE. Mae gwefan Arbenigwyr ECVET yn rhoi cymorth ac arweiniad i sefydliadau sy’n dymuno deall a gweithredu ECVET ym mhrosiectau Erasmus+. Os oes gennych ymholiadau nad ydynt yn cael eu hateb ar y wefan, cysylltwch â Phwynt Cyswllt Cenedlaethol ECVET ac Arbenigwyr ECVET Cymru, sydd wedi’u lleoli yng NgholegauCymru.

Beth gall wneud i ddysgwyr, gweithwyr a cheiswyr gwaith

Mae ECVET yn galluogi i’r canlyniadau dysgu a gyflawnir yn ystod cyfnod o hyfforddiant neu astudio dramor gael eu cydnabod. Mae hyn yn ychwanegu gwerth at eich profiadau dramor.

Cyn ichi adael i fynd ar ymweliad astudio neu leoliad gwaith yn Ewrop, byddwch yn llofnodi cytundeb dysgu fel eich bod yn gwybod yn glir beth yw diben eich hyfforddiant. Wedi ichi ddychwelyd i Gymru, gallech ddewis cyflwyno’r sgiliau a ddysgoch a’r profiadau a gawsoch i gyflogwyr posibl gan ddefnyddio Europass.

Beth gall wneud i diwtoriaid coleg y mae eu dysgwyr yn mynd ar ymweliad astudio dramor

Fel rhan o waith trefnu ymweliad astudio neu leoliad gwaith i’ch dysgwyr gan ddefnyddio cyllid Erasmus+, bydd angen ichi lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’ch sefydliad partner yn Ewrop a chytuno ar y canlyniadau dysgu a fwriedir. Bydd hyn yn eich helpu i sicrhau bod modd i’r sy’n cael ei ddysgu dramor gael ei gydnabod yn ffurfiol fel rhan o gymhwyster galwedigaethol eich dysgwyr yn y Deyrnas Unedig.

Beth gall wneud i diwtoriaid coleg sy’n dymuno gwella eu hymarfer eu hunain

Mae Erasmus+ yn cynnig cyfle i diwtoriaid coleg gael dealltwriaeth o wahanol dechnegau addysgu ac asesu yng ngwledydd eraill Ewrop. Gan ddefnyddio egwyddorion ECVET, gall canlyniadau dysgu gael eu nodi a’u cyflawni yn ystod cyfnodau o astudio dramor.

Beth gall wneud i gyflogwyr

Bydd prentisiaid sy’n ymgymryd â chyfnodauo hyfforddiant dramor yn gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth drwy gael profiad o ymarferion gweithio newydd a gwahanol. Gall y sgiliau a’r cymwyseddau newydd hyn gael eu cydnabod drwy ECVET.

Offer eraill a allai fod o ddiddordeb ichi:

Mae’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd yn eich helpu i ddeall lefelau cymwysterau tramor.

Mae Europass yn bortffolio o ddogfennau sy’n disgrifio gwybodaeth a sgiliau unigolyn mewn modd sy’n ddealladwy ledled Ewrop.

Mae’r Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd yn rhestru’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gael swyddi penodol yn Ewrop.

Mae’r System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn helpu i roi hyder y gellir ymddiried mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn Ewrop.

Mae’r system i achredu dysgu anffurfiol a dysgu nad yw’n ffurfiol – hynny yw, sgiliau a ddysgwyd y tu allan i’r system addysg ffurfiol, neu i unigolion nad oes ganddynt dystysgrifau ffurfiol, yn y Deyrnas Unedig y cael ei galw’n Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol.

ECVET PDF