Mae’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd yn eich helpu i ddeall lefelau cymwysterau dramor.
Ei nod yw cysylltu systemau cymwysterau cenedlaethol gwahanol wledydd mewn fframwaith cyfeirio cyffredin Ewropeaidd, gan wneud cymwysterau cenedlaethol yn fwy darllenadwy ledled Ewrop.
Beth gall wneud i ddysgwyr, gweithwyr a cheiswyr gwaith
Gallwch gymharu eich cymwysterau â rhai ar yr un lefel mewn gwlad arall. Ewch i wefan y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd a dechreuwch drwy ddewis eich fframwaith cenedlaethol eich hun.
Beth gall wneud i gyflogwyr, a staff mynediad colegau a phrifysgolion
Dysgwch sut mae cymwysterau ymgeisydd yn cymharu â chymwysterau’r Deyrnas Unedig gan ddefnyddio gwefan y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd. gwefan y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd..
Beth gall wneud i gynghorwyr gyrfaoedd
Offer eraill a allai fod o ddiddordeb ichi:
Mae Europass yn bortffolio o ddogfennau sy’n disgrifio gwybodaeth a sgiliau unigolyn mewn modd sy’n ddealladwy ledled Ewrop.
Mae’r Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd yn rhestru’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gael swyddi penodol yn Ewrop.
Mae’r system i achredu dysgu anffurfiol a dysgu nad yw’n ffurfiol – hynny yw, sgiliau a ddysgwyd y tu allan i’r system addysg ffurfiol, neu i unigolion nad oes ganddynt dystysgrifau ffurfiol, yn y Deyrnas Unedig y cael ei galw’n Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol.
Mae’r System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn helpu i roi hyder y gellir ymddiried mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn Ewrop.
Fframwaith yw’r System Trosglwyddo Credyd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol sy’n cefnogi a chydnabod elfennau o ddysgu sy’n digwydd yn ystod ymweliadau astudio a lleoliadau gwaith dramor.
EQF yn y DU - diweddariad 2016