English

Mae’r wefan hon yn rhoi trosolwg o’r pethau a ganlyn:

Y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd
Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd
Dysgu Anffurfiol a Dysgu nad yw'n Ffurfiol
Y System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
System Trosglwyddo Credyd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol

Rhwydweithiau Ewropeaidd eraill sy’n ymwneud â chymwysterau, sgiliau a symudedd ledled Ewrop:

ReferNet yw’r rhwydwaith cyfeirio ac arbenigedd Ewropeaidd mewn Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET). Caiff ei gydlynu yn y Deyrnas Unedig gan ECCTIS Ltd.

Mae’r Portal on Learning Opportunities Throughout the European Space yn llwyfan ar-lein sy’n rhoi gwybodaeth am gyrsiau a chymwysterau ledled Ewrop.

Mae’r Euroguidance Network yn rhwydwaith o gynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol o dros 30 o wledydd. Fe’i cefnogir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Aspire-international yw canolfan Euroguidance y Deyrnas Unedig.

Mae’r European Credit Transfer and Accumulation System yn system sy’n ei gwneud yn haws i fyfyrwyr addysg uwch sicrhau bod eu hastudiaethau’n cael eu cydnabod a'u trosglwyddo pan fyddant yn symud rhwng gwledydd wrth ennill eu cymwysterau.

Gwasanaeth cyflogaeth a pharu swyddi a ffurfiwyd trwy gydweithrediad gwasanaethau cyflogaeth cyhoeddus ledled Ewrop yw'r Gwasanaeth Cyflogaeth Ewropeaidd.

Mae’r Llwyfan Electronig Addysg Oedolion yn Ewrop yn gymuned amlieithog ac iddo aelodaeth agored. Fe’i bwriedir ar gyfer athrawon, hyfforddwyr, ymchwilwyr, academyddion a gwneuthurwyr polsïau. Caiff Gwasanaeth Cefnogi Cenedlaethol EPALE UK ei gydlynu gan Ecorys.

Tasg rhwydwaith Eurydice yw esbonio sut y mae systemau addysg yn cael eu trefnu yn Ewrop a sut y maent yn gweithio. Mae uned Eurydice ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (SCYA) ac mae uned Eurydice ar gyfer yr Alban yn Llywodraeth yr Alban.