English

Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd


Mae cronfa ddata Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd (ESCO) yn dangos y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen i gael gwaith mewn crefftau penodol yn Ewrop.

Pan fydd wedi’i chwblhau, bydd y gronfa ddata yn cwmpasu yr holl alwedigaethau a’r cymwysterau yn aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.

Beth gall wneud i ddysgwyr, gweithwyr a cheiswyr gwaith

Os ydych yn chwilio am swydd yn Ewrop, bydd cronfa ddata ESCO yn eich helpu i weld pa gyfleoedd gwaith sy’n cyd-fynd â’r sgiliau sydd gennych. Mae’n caniatáu ichi weld ba sgiliau a chymwysterau mae cyflogwyr yn Ewrop yn chwilio amdanynt ar gyfer swyddi penodol.

Beth gall wneud i gyflogwyr

Bydd ESCO yn eich helpu i gysylltu sgiliau a chymwysterau penodol â swydd yn eich cwmni a’i gwneud yn haws ichi wneud eich swyddi gwag yn agored i geiswyr gwaith yn Ewrop.

Beth gall wneud i gynghorwyr gyrfaoedd

Pan fydd ESCO yn gwbl weithredol, bydd yn gwneud marchnad lafur Ewrop yn agored.

Drwy ddefnyddio cronfa ddata ESCO, gall gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau gyrfaoedd a chyflogaeth ledled Ewrop gyfnewid swyddi gwag.

Noder: Mae ESCO yn dal i gael ei ddatblygu. Nid yw’n gwbl weithredol eto.

Offer eraill a allai fod o ddiddordeb ichi:

Mae’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd yn eich helpu i ddeall lefelau cymwysterau tramor.

Mae Europass yn bortffolio o ddogfennau sy’n disgrifio gwybodaeth a sgiliau unigolyn mewn modd sy’n ddealladwy ledled Ewrop.

Mae’r system i achredu dysgu anffurfiol a dysgu nad yw’n ffurfiol – hynny yw, sgiliau a ddysgwyd y tu allan i’r system addysg ffurfiol, neu i unigolion nad oes ganddynt dystysgrifau ffurfiol, yn y Deyrnas Unedig y cael ei galw’n Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol.

Mae’r System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn helpu i roi hyder y gellir ymddiried mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn Ewrop.

Fframwaith yw’r System Trosglwyddo Credyd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol sy’n cefnogi a chydnabod elfennau o ddysgu sy’n digwydd yn ystod ymweliadau astudio a lleoliadau gwaith dramor.

ESCO PDF