English

Y System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol


Mae’r System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (EQAVET) yn rhoi hyder yn sicrwydd ansawdd rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn Ewrop – mae’n creu cyd-ymddiriedaeth.

Mae EQAVET yn diffinio natur systemau sicrwydd ansawdd da, yn rhoi dangosyddion i bennu pa mor dda mae’r systemau sicrwydd ansawdd hynny’n perfformio, ac astudiaethau achos o arferion da.

Mae proses sicrwydd ansawdd y Deyrnas Unedig yn cydymffurfio ag egwyddorion EQAVET..

Offer eraill a allai fod o ddiddordeb ichi:

Mae’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd yn eich helpu i ddeall lefelau cymwysterau tramor.

Mae Europass yn bortffolio o ddogfennau sy’n disgrifio gwybodaeth a sgiliau unigolyn mewn modd sy’n ddealladwy ledled Ewrop.

Mae’r Sgiliau, Cymwyseddau a Galwedigaethau Ewropeaidd yn rhestru’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gael swyddi penodol yn Ewrop.

Mae’r System Sicrwydd Ansawdd Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn helpu i roi hyder y gellir ymddiried mewn rhaglenni addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn Ewrop.

Mae’r system i achredu dysgu anffurfiol a dysgu nad yw’n ffurfiol – hynny yw, sgiliau a ddysgwyd y tu allan i’r system addysg ffurfiol, neu i unigolion nad oes ganddynt dystysgrifau ffurfiol, yn y Deyrnas Unedig y cael ei galw’n Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol.

EQUAVET PDF