English

ColegauCymru yn cynnal digwyddiad PLA ar gyfer cynrychiolwyr Ewropeaidd

Chwefror 17, 2017

Thema'r cyfarfod oedd y pwnc llosg o gyfraddau lleoliad mewn rhaglenni VET ac archwiliodd ystod o ddulliau ar lefel system a darpariaeth yn Ewrop.

Agorodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru, y digwyddiad gan groesawu'r cynrychiolwyr a gan gyflwyno AB yng Nghymru i'r ymwelwyr. Trafodwyd Sharon James o Coleg Caerdydd a'r Fro sut i ymgysylltu â chyflogwyr ac effaith hyn ar ddatblygiad y cwricwlwm. Cyflwynodd am sut mae'r coleg yn monitro a mapio dilyniant pob dysgwr gan ddefnyddio Swyddogion Cyflogadwyedd, Dilyniant a Phresenoldeb (EPAs) i gefnogi, datblygu a monitor dysgwyr.

Siaradodd Sacha Davies o Gyrfa Cymru am ddefnydd Gyrfa Cymru o Ddata Cyrchfan Cleient. Mae'n galluogi, drwy ddiweddariadau rheolaidd, i fonitro ac adrodd ar gynnydd pobl ifanc wrth iddynt symud o flwyddyn 11 hyd at 18 oed. Mae rhannu arfer da ar draws Ewrop yn allweddol i addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru. Mae hyn, yn ogystal â gweithgaredd Ewropeaidd a rhyngwladol ColegauCymru, yn dangos ymrwymiad i addysg bellach ar draws Ewrop.

Cafodd pob un o'r cynrychiolwyr eu plesio gan cyfleusterau'r coleg a'r croeso a gawsant yng Nghymru.

Bydd adroddiad llawn y PLA ar gael ar wefan EQAVET yn y dyfodol agos.